Burum yw’r enw newydd ar wasanaeth a hen enillodd ei blwyf – Gwasanaethau Ymgynghorol Owain Wyn a bod yn gywir.
Gyda’r cwmni yn brysur neshau at ei benblwydd yn ddeg oed daeth amser i gael newid bach – nid yn gymaint o ran y gwasanaeth a gynigir ond i geisio cyfleu yn well beth y mae ymgynghori amdano – sef ychwanegu’r elfen honno sy’n arwain at greu gwerth ychwanegol.
A dyna mae burum yn ei wneud yn y gegin neu’r bragdy - pan ychwanegir at y defnyddiau crai y canlyniad yw fod adwaith neu fwrlwm yn digwydd gan arwain at greu rhywbeth arall mwy gwerthfawr. Dyna’r nod i ni bob tro wrth ymgymryd â phrosiect. |